Sydney 2008

Ym Mehefin 2008, cafodd tîm o fyfyrwyr o Safle Dolgellau, Coleg Meirion-Dwyfor y fraint o gynrychioli colegau Cymru yn yr her fenter byd eang.  Cafodd y rownd derfynol hon ei chynnal yn Sydney.  Y myfyrwyr yn y tîm oedd:  Ryan Weir, Alex Jones, Lyndsey Jones, Mili Mererid, Rhodri Gravell a David Morris.  Y tiwtoriaid a hyfforddodd y tîm oedd Maureen Jones ac Ieuan Edwards.

 

Roedd y gystadleuaeth yn para am 24 awr.  Yr her oedd meddwl am gynnyrch neu wasanaeth a fyddai'n helpu cwmniau a sefydliadau i wynebu her prinder dwr.  Cafodd y tîm syniad am greu gwasanaeth addysgu plant sut i ddefnyddio dwr yn ddarbodus.

Daeth Tîm Cymru yn 3ydd yn y gystadleuaeth hon.  New Zealand oedd yn fuddugol ac Awstralia yn ail.  Y tim gyda Maureen Jones y tu allan i'r coleg.

 Cafodd y myfyrwyr gyfle i fwynhau Sydney am ddeuddydd cyn dod adre.  Trefnir cystadleuaeth Her Fenter i Golegau Cymru yn flynyddol gan Dîm Addysg Menter Llywodraeth Cynulliad Cymru.  Mae hwn yn rhoi cyfle ardderchog i nifer fawr o fyfyrwyr ddatblygu sgiliau mentergarwch.  Diolch yn fawr i'r rhai a noddodd y tîm.

 

 



Shares:Google书签Yahoo书签雅虎收藏夹365Key网摘新浪ViVi百度收藏天极网摘diglog和讯网摘POCO网摘YouNote网摘博拉网天下图摘 spurl blogmarksBlinkListredditdiggDel.icio.usFree Java open source projects.


The comment section is restricted to members only.